Ailddysgu

Sunday 27 February 2011

Arwyddion o'r Gwanwyn




Cawsom dipyn o haul dydd Iau diwethaf – ond wnaeth o ddim para’n hir! Ond are ol gweld llun ar blogBethan Gwanas (ar 21ed o Chwefror) o’r grifft yn ei phwll, es allan i weld os oedd y llyfantod wedi bod yn dodwy wyau yn ein pwll. O flwyddyn i flwyddyn dwi'n cadw nodyn o pa bryd mae’r grifft yn cael ei ddodwy a fel arfer ar ddechrau mis Mawrth mae’r llyfantod yn dod. Felly mae o’n gynnar blwyddyn yma (26ed). Ond ar ol eira a rhew cyn Dolig a dros Dolig mae o wedi bod yn fwyn am ryw fis rwan a mae arwyddion o Gwanwyn wedi dechrau dangos.

Dyma’r cening pedr sydd wedi dod allan yn yr ardd – a hefyd dyma salad ces i o’r ty gwydr ddoe – dydi o ddim yn ddrwg an Chwefror, nac ydi?

Ond bydd rhaid plannu hadau letys os dyn ni am cael salad hefo letys yn hwyrach yn y blwyddyn.

Wednesday 23 February 2011

Darllen Catrin Jones yn Unig

Diwrnod arall gwlyb a diflas. Felly y bws amdani - a'r beic fory pan addewid tywydd sych! Gorffenais darllen y llyfr Catrin Jones yn Unig ond ces I ddim fawr o flas Arno fo. Er bod y Cymraeg yn dda yn llefydd, yn llefydd eraill defnyddwyd tafodiaeth y De (Caerfyrddin efalla?) a roeddwn yn methu dallt yr iaith o gwbl. Mi ddylwn wedi darllen yr adolygiad yma cyn meddwo am ddarllen y llyfr – ond prynais o am haner pris mewn gwerthiant.




Labels: , ,

Thursday 17 February 2011

Caneuon Cymraeg

I fi, mae gwrando ar (a canu) caneuon yn ffordd dda o ddysgu Cymraeg: a weithiau mae'r iaith sydd yn cael ei ddefnyddio yn gymysg o iaith lafar a iaith mwy "cywir" neu ffurfiol. Mae hyn yn wir am ganeuon Meinir Gwilym a dwi’n ddiolchgar iawn i Gareth am cyflwyno ei chaneuon i fi. Gan fy mod i'n byw yn Lloegr dwi ddim yn clywed digon o gerddoriaeth Cymraeg i wybod be dwi’n hoffi neu beidio. Ond yn sicr dwi’n hoffi caneuon Meinir. Ond, dwi ddim yn meddwl bod albwm newydd ar gael ers Tombola - sydd yn hynod o dda. Felly diolch i Neil Wyn Jones am awgrymiadau are ei flog dipyn bach yn ol – yn fama.

Ar ol darllen y blog, chwiliais am ganeuon Gwilym Glyn sydd ar yr Albym Tonau ar “Spotify” i weld os dwi’n licio nhw. (Dyma’r caneuon be sydd ar Tonau, dwi’n meddwl

1 - 'Mhen i'n llawn 
2 - Dail Tafol 
3 - Du ydi'r eira 
4 - O'n i'n mynd i... 
5 - Y forforwyn 
6 - Cân y siarc 
7 - Dy dywydd dy hun 
8 - Tywod Gwyn 
9 - Cariad 
10 - Pa bryd y deui eto? 
11 - Pwyll a Macsen 
12 - Iâr fach yr ha)

Ond doedd y rhan mwyaf dim yna – nac ar Youtube chwaith – ond mwynhais Du ydi’r eira a hefyd dwi wedi clywed - Cân y siarc o’r blaen. Felly dwi ddim wedi penderfynnu eto ai ddylwn i brynu’r CD neu beidio.

Wednesday 16 February 2011

Can Lle: Caernarfon a'r tafarn "The Black Boy"


Ydych chi wedi bod yn gwylio Can Lle? (Cyfres diddorol, dwi’n meddwl) a hefyd mae’r llyfr yn dda. Er ei fod yn edrych fel “coffee table book“ (be ydi hynny yn Gymraeg - cyfieithiad llythrenol, tybed?) mae o’n llawn o wybodaeth hanesyddol, diwydiannol a diwylliannol. Wn i iddim os byddaf yn medru ymweld a’r holl llefydd, ond dwi am trio gweld rhai o’r llefydd dwi ddim wedi ymweld a eto.

A mae o’n dda gweld bod gymaint o sylw ar Gaernarfon, fy hen dre i, ar S4C yn ddiweddar. Mae’r cyfres yn ymweld a’r castell - ond os dych chi eisiau cael argraff wahanol mae tafarn Caernarfon (The Black Boy) yn cael sylw yn y gyfres Straeon Tafarn – ac ia, hwn oedd fy tafarn lleol i, pan oeddwn yn byw yn y dref!

Labels: , , ,

Tuesday 15 February 2011

Beicio i’r gwaith a bywyd gwyllt

Dyma fy resymau arferol am feicio i’r gwaith:

1. Ymarfer corff (yn rhad ac am ddim)

2. Mae o’n wyrdd

3. Ffordd rhad o fynd i’r gwaith

4. Mewn tywydd braf, yn enwedig, mae o’n bleserus iawn

5. Dwi’n hoffi bod allan yn y cefn gwlad/y parciau

Heddiw ces i fy atgoffa o reswm arall – sydd yn dilynu (5). Wrth beicio ar y llwybr coch yn ymyl y lôn (mae gan MK rwydwaith o lwybrau coch) gwelais aderyn yn eistedd ar y ffens i’r dde – yn ymyl y gwrych, yn agos iawn, a sylweddolais mai gwalch glas (sparrowhawk) oedd o. Mae gwybodaeth i gael yma:

Mae’r adar yma o gwmpas yn MK, ond dwi ddim yn gweld nhw yn amal iawn. Adar ysglfyfeuthus ydyn nhw, a mae nhw’n hardd iawn. Wrth i fi fynd heibio, ehedodd yr aderyn i ffwrd. A dyna fo, meddyliais. Gwelais y streipiau ar ei fron yn glir. Ond ychydig o funudau wedyn – dyma’r gwalch glas yn flio heibio fi, i’r chwith, dim yn bell oddiwrth y ddaear – a roeddwn i yn medru ei weld o yn glîr iawn. Wn i ddim pam mae ganddo fo'r enw gwalch glas - swn i'n ddeud bod y lliw yn fwy lwyd - one efallai ryw lwyd-las ydi o.

Labels:

Arbrawf

I weld pa mor annodd ydi postio blog o'r iPhone. Dim rhy ddrwg hyd at hyn. Ond wn i ddim sut fydd o'n edrych!

Labels: ,

Friday 11 February 2011

Cymraeg yn Llundain: Pawb A'i Farn

Cymreictod yn Llundain a’r Canolfan Cymry Llundain


A welsoch chi “Pawb A’i Farn” a oedd y dod o Lundain, neithiwr - trafodaeth diddorol yn dilyn cwestiwn am dyfodol y Canolfan Cymry Llundain ag yr angen am gefnogi’r cymdeithas –am Gymreictod a gwahanol ffyrdd o ddangos hynny ag o fod yn Gymraeg yn Llundain. Glenys, sy’n tiwtor ar y cwrsiau undydd Cymraeg a ofynnodd y cwestiwn: “Mae angen cefnogaeth ar Ganolfan Cymry Llundain: fasech chi’n cytuno bod angen adeilad pwrpasol i gynnal cymreictod yn Llundain”

Er bod rhai yn deud nag yr adeilad sy’n bwysig ond y cymuned, swn i’n cytuno hefo Glenys bod yr adeilad ei hyn yn bwysig hefyd. Peth arall a ddaeth i’r golwg oedd y cefnogaeth mae’r Cymry Cymraeg yn Llundain yn dangos trwy siarad Cymraeg hefo eu plant (neu dim). Roedd un o’r panelwyr yn dadla bod gymaint o bobol heb Saesneg fel iaith cyntaf yn siarad eu ieithoedd cyntaf ac yn llwyddo i fagu plant ddwyieithog felly pam ddyle Gymraeg a’r Cymry Cymraeg fod yn wahanol? I fi, mae’r faith bod Cymraeg yn iaith lleiafrif yn gwneud ryw gwahaniaeth yn y ddadl hon. E.e., os na Sbaeneg neu Ffrangeg yw eich iaith cyntaf, bydd rai bobol yn siarad Saesneg yn dda – ond dim yn teimlo’n rugl – nag yn gyffyrddus - yn siarad Saesneg. Ond mae bob oedolion sy’n siarad Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd heddiw – ag yn anhebyg i Gymraeg, os dych chi’n byw yn Lloeger byddwch wastad yn clywed Saesneg o gwmpas – felly mae o’n hawdd syrthio i fewn i siarad Saesneg, dwin meddwl. A mae gennyn ni llawer llawer llai o siaradwyr Cymraeg i gymharu a iaith mawr fel Sbaeneg neu Ffrangeg.


Roedd rhai pobol ddim wedi darganfod y cymuned Cymraeg am dipyn – er ei fod wedi bod yn byw yn LLundain. Roedd rhai o’r bobol ifanc yn teimlo’n fwy negyddol am y canolfan – am yr adeilad, y digwyddiadau a’r ffaith bod dim llawer o bwyslais ar y Cymraeg.


Ron i ddim yn gwybod am y Ganolfan o gwbl nes i fi ddarganfod yr ysgolion undydd a dwi'n ei gwerthfawrogi yn fawr. Ond dydyn nhw ddim yn digwydd yn aml – ond tair gwaith y blwyddyn mae nhw - ond trwy mynd, heblaw dysgu Cymraeg dwi hefyd wedi cwrdd a dysgwyr eraill - a cymry cymraeg a wedi mynd i sawl ddigwyddiad - rhai i gefnogi'r canolfan ag i godi arian sydd ddrwg angen am yr adeilad.

Er fy mod i'n medru cerdded ir Ganolfan o Euston, mae'r holl daith o Milton Keynes dipyn yn bell i fynd I ddigwyddiau gyda'r nos heb dod adre un hwyr iawn. Er engraifft, es i weld Meinir Gwilym yna ond roedd rhaid gadael cyn y diwedd.

Labels:

Tuesday 8 February 2011

Cerflun mileniwm yn Milton Keynes


O’r diwedd mae’r gwynt wedi mynd a r’oedd o’n bosib beicio i’r gwaith heddiw. A hefyd, r’oedd yn ddiwrnod haelog, ardderchog - gymaint o newid are ol y dyddiau llwyd. Dwi ddim yn cofio’r tro dwytha y welais i’r haul! Beth bynnag, r’oedd beicio heddiw yn wŷch. Tynnais llun o’r cerflun mileniwm sydd ger y llyn dwi’n mynd heibio - “Willen Lake“. Mae’r arwydd yn dweud:

“Bringing together the North American Indian Medicine wheels and the ancient stone circles of Britain“ a mae o’n fod i dod a heddwch ysbrydol a harmoni i’r ddaear. Hmmm, yn anffodus - hyd at hyn, does dim llawer o arwyddion bod heddwch (ysbrydol neu ddim) wedi dod. Ond roedd o’n edrych yn hardd yn haul y bore.