Ailddysgu

Thursday 27 October 2011

I'r tywyllwch


Er i fi adael gwaith yn fuan heddiw, ‘roedd o bron yn dywyll erbyn i fi gyrraedd adre. A hon fydd y noson olaf pan fydd rywfaint o olau ar ôl (os dwi’n gadael y gwaith tuag at yr amser arferol). Felly o hyn ymlaen mi fydd yn beicio’n ôl yn y tywyllwch bob dydd – ac er i hyn ddiwgwydd bob blwyddyn, dwi’n casau y newid o’r golau i’r tywyllwch. Ond mi fyddaf yn trio gwrando ar rhywbeth ar yr iphone. Dipyn o Gymraeg, os bosib – ond mae angen digon am 40 munud. Ag ar ôl ddod i ymarfer, mae rhywbeth heddychol ynglyn a beicio yn y tywyllwch.

Monday 17 October 2011

Hydref


Mae'r Hydref yn wir wedi dod rwan. Dwi ddim wedi cael llawer o amser i gyfrannu i'r blog yma yn ddiweddar. Cawsom gwyliau byr yn y Lake District ar ddiwedd Medi a dechrau Hydref. Tra roedd de y wlad yn mwynhau Haf Bach Mihangel roedd y tywydd braidd yn wahanol yn Coniston. Ond fel arfer cawsom amser da. Ac ers hynny, gwaith a trin yr ardd. A dyma llun o cawl tomato - efo tomatos olaf y tymor.