Ailddysgu

Saturday 23 April 2011

Dal i fynny


Mae o wedi bod mor boeth yn ddiweddar - er nad ond yn Ebrill ydyn ni. Dwi ddim wedi medru cyfrannu i'r blog ar ol bod i ffwrdd hefo gwaith (yn Manceiniog) a wedyn dod yn ol ar dydd Gwener ac i ffwrdd ar ein taith cerdded dydd Sadwrn. Cawsom gwyliau a taith bendigedig. 'Roedden ni yn cerdded "The Two Moors Way" (Ffordd y dday rosdir??) yn Devon a r'oedd y tirlun more hardd a mor wahanol. Rhosdir, coedwig, llwybrau ger afonydd - a beth bynnag ydi "Green lanes" yn Gymraeg.

Rwan dyn ni am fynd i weld brawd Jim dros y penwythnos Pasg - felly mwy o dal i fynny i ddod!

Friday 8 April 2011

Llyfrau - eto!

Dwi wastad yn chwilio am lyfrau Cymraeg i ddarllen . R’on i’n arfer archebu nhw o lyfrgell y gwaith – ond, os ydy’r llyfr yn eitha newydd, yn aml mae’r neges yn dod yn ôl nad ydyw ar gael. Ers dipyn, dwi ddim wedi trio. A dwi ddim yn prynu gormod, achos mae’r pentwr o lyfrau Cymraeg digon fawr – a does dim gormod o le. Yn y cyfamser mi fydda I’n ailddarllen llyfrau Bethan Gwanas – wastad yn dda – hyd yn oed pan dwi’n eu ddarllen am y trydydd tro. Ond rhaid hefyd cael defnydd newydd rŵan. (Heb sôn am y llyfrau dwi wedi dechrau ac yn methu gorffen). Mae fy ffrind Gareth wedi awgrymu darllen Cychwyn gan T Rowland Hughes – ond wedi edrych arno dwi’n meddwl efallai bod Chwalfa yn edrych yn ddiddorol. Felly dwi wedi archeb hwnnw. (A dwi hefyd yn gaddo i fy hyn fy mod am ychwanegu i’r rhestr o lyfrau ar fy mlog. Wedi gweld hyn ar flogiau eraill, r’on i’n meddwl ei fod yn syniad da – a mae o – ond mae angen llenwi o i fewn – dim just gwneud un neu ddau!) Tra dwi’n son am lyfrau, welais adolygiad o lyfr diwethaf Gwen Parrot ar wefan Gwales. Ac am fy mod I’n hoff o storiau ditectif dwi’n meddwl prynu o.

Labels:

Friday 1 April 2011

Rownd a Rownd

Oes rhywyn arall yn hoff o Rownd a Rownd? Mae’r cyfres presennol wedi gorfeen a mi fyddai yn ei golli o. Efallai mae esgus i wylio sebonau operau ydi dweud wrtha’ch hun y ddylia chi gymryd bob cyfle i wrando ar pethau Gymraeg. Ond dwi yn trio clywed digon o Gymraeg a chael amrywiaeth o wahannol fath o raglynnau hefyd. Felly mae’r bore yn dechrau yn amal gyda gwneud ymarferion (i helpu’r gliniau!) i gyfeiliant Radio Cymru (trwy’r teledu) Wedyn gyda’r nos, os dyn ni’n gwylio teledu mae o’n dibynnu beth sydd ar gael - a be mae fy ngwr eisiau gwylio. Ond dwi’n cyfadde fy mod i yn gwylio Pobol y Cym - ond ddim yn gyson. Un peth, mae’r tafodiaeth yn llawer mwy annodd i fi (er bod Gogs ynddo fo hefyd wrth sgwrs - dwi’n meedwl ei fod yn reol anysgrifennedig bod rhaid cael rhai pobol o’r Gogledd mewn rhaglen sydd yn dod o’r de, a.y.y.b). Ond ydi safon y rhaglen ddim yn dda iawn. Ac er bod Rownd a Rownd ar gyfer plant, dwi’n meddwl bod y safon yn uwch o lawer; a’r storiau llawer mwy gredadwy - o a un peth arall - mae’r cymeriadau yn fwy glên, ar y cyfan.

Labels: ,