Ailddysgu

Friday 10 September 2010

Mafon anhapus


Dyma’r mafon yn fy ngardd – wel, y mafon hydref. Dyn nhw ddim yn edrych yn dda iawn, a dim yn ffrwytho cystal a ddylen nhw. Dwi’m yn siwr pam. Dwi am roi dipyn o dail arnyn nhw a hefyd trio darganfod y problem – chwilen mafon, efalle. Dyna be ydi ‘raspberry beetle’ tybed? Ond hefyd mae diffyg rhywbeth arnyn nhw yn gwneud y dail yn felyn. Ydi garddio ddim bob amser yn llwyddianus.

Friday 3 September 2010

Diffyg Llyfrau: Prynu neu Menthyg?

Er fy mod yn cael trafferth sgwennu yn Gymraeg, ac yn aml dim yn cael o’n hawdd i feddwl be i sgwennu amdanno yn y blog – na gweithio allan y gramadeg, ac mae’n cymryd dipyn o amswer I sgwennu rhywbeth, mae darllen yn gwbl wahannol. Wrth sgwrs, pan dwi’n darllen fel arfer mae na geiriau dwi ddim yn adnabod - a gan amlaf, dwi ddim yn edrych yn y geiriadur y dyddiau yma, ond dyfalu’r ystyr o’r cyd-destun. (Fy mwriad ydi gwneud nodyn a edrych yn hwyrach. Ond yn aml dwi ddim yn gwneud hynny chwaith). Er hynny, dwi’n darllen llyfrau Cymraeg run fath a llyfrau Saesneg – braidd yn gyflym. A’r canlyniad ydi fy mod yn rhedeg allan o lyfrau. Prynais Mei Ling a Meirion yn yr eisteddfod a hefyd Llafnau - ond erby rwan dwi wedi gorffen y ddau amser maith yn ol.

Oeddwn i’n meddwl darllen Adenydd Gloyn Byw – y nofel a enillodd Gwobr Daniel Owen eleni – a hefyd llyfr Jerry Hunter, Gwenddydd. Yn ddiweddar dwi wedi body yn archebu lyfrau o llyfrgell y Prifysgol Agored, lle dwi’n gweithio, trwy’r “interlibrary loan system” (ia, swn i’n falch cael gwybod be ydi o yn Gymraeg). Ond tro yma, ges i’r neges bod y llyfrgell ddim wedi medru cael gafael o’r llyfrau. Er eu bod nhw wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar, o’n i’n meddwl basen nhw ar gael yn y llyfrgelloedd Cymraeg. Ond dyma ni. Wedyn roedd rhaid meddwl – be i ddarllen? Es i edrych ar rhestr ennillwyr gwobr Daniel Owen dros y blynyddoedd a roedd hynna’n ddechrau da. Felly ar y rhestr rhoes Cur Y Nos gan Geraint V Jones a cofiais hefyd bod rhywun wedi dweud wrtha i bod llyfr arall ganddo fo, “Semtecs”, yn dda hefyd. Felly dwi wedi archebu Semtecs – ond wrth chwilio am fanylion Cur Y Nos, darganfais copi am Amazon am geiniog. Felly prynais o. Fel arfer dwi ddim yn prynu gormod o nofelau (Cymraeg neu Saesneg)neu fasa’r ty yn orlawn o lyfrau. Ond, falle ddylwn i prynu llyfrau weithiau. Does dim gymaint o bobl sy’n darllen Cymraeg – a mae hynny’n gwneud o’n awdurion Cymraeg. Dwi’n cofio Bethan Gwanas yn son bod um person yn y pentre wedi prynu un o’i llyfrau hi a wedi menthyg o i bawb arall. Dim llawer o gymorth i werthianau y llyfrau, wrth sgwrs. Ond wedi dweud hynnu, dwi yn prynu rhai, wrth sgwrs, enwedig llyfrau dwi’n disgwyl darllen mwy nac unwaith. Dwi newydd orffen darllen Llafnau gan Geraint Evans. Roeddwn i wedi mwynhau Y Llwybr gan yr un awdur a roedd Llafnau hefyd yn ddarllenadwy – a do, nes i fwynhau o, ond yn y diwedd r'on i ddim yn siwr am y plot. Ta waeth. Felly dwi’n aros nes ddaw mwy o lyfrau newydd i ddarllen. Ac yn y cyfamser dwi’n ail darllen llyfrau a wedi dechrau (eto) ar Hi Yw fy Ffrind. (Fel mae’n digwydd, mae llyfrau Bethan Gwanas i gyd ar fy silffoedd – dwi’n hoff iawn o lyfrau Bethan a wedi prynu nhw i gyd yn hytrach na menthyg nhw. A’r llyfrau eraill ar y rhestr ar y munud ydi: Disgwyl Eneidiau gan Gwen Pritchard Jones (2006), Un Diwrnod yn yr Eisteddfod, Robert Llewelyn (2004) a Bitsh, Eurig Wyn 2002.