Ailddysgu

Thursday 22 July 2010

Hunangofiant Russell a llyfrau dwyieithog

Wythnos dwythaf, r'on i yn yr Alban, ar ynys Mull am wythnos, a roedd yn wych. Byddaf yn postio dipyn am y profiad ac y bywyd gwyllt, yn enwedig yr adar, pan gai amser - a pan dwi wedi dewis lluniau. Ond dwi newydd darllen blog Bethan Gwanas a gweld bod Russell wedi ysgrifennu hunangofiant - Gwyrdd fy Myd. Bydd o'n mynd ar y rhestr ac yn gyferbyniad i'r hunangofiant dwi'n darllen ar y funud, sef Y Lon Wen gan Kate Roberts.
Mae'r fersiwn gen i yn ddwyieithog - yn cynnwys cyfieithiad. Fel arfer dwi'n darllen llyfr Cymraeg hefo neu heb geiriadur. Weithiau (er engraifft pan dwi'n darllen llyfrau Saesneg sydd wedi cael ei gyfieithu i Gymraeg fel llyfrau Roald Dahl) dwi'n darllen hefo'r fersiwn Saesneg gerllaw. Wrth sgwrs, i rhywun sydd yn siarad a darllen Cymraeg fel ail iaith, mae cael fersiwn Saesneg yn yr un llyfr yn berygl - os dych chi'n teimlo dipyn yn ddiog, gallwch jyst darllen y Saesneg. Ond hefo llyfrau Kate Roberts, sydd weithiau yn defnyddio geiriau hen a hefyd geirfa sydd yn gysylltiedig hefo'r bywyd y chwareli, mae o'n ddefnyddiol iawn. Mae'n raid i fi gyfaddef, ar y funud, dwi'n darllen y Saesneg - ond byddaf yn mund yn ol i ddarllen y Cymraeg. Hefyd mae o'n diddorol gweld sut mae pethau yn cael ei gyfieithu. Weithiau dwi ddim yn cytuno hefo cyfieithiad Gillian Clarke. Pan oeddwn yn dysgu Eidaleg, dwi'n cofio gymaint o help roedd cael llyfrau dwyieithog i ddysgwyr.