Ailddysgu

Tuesday 30 November 2010

Am wahaniaeth


Yn gynharach yn y mis, r'oedd y lliwiau'r Hydref i gyd yn dangos ar y coed, fel gwelir yn y llun a tynnais ar y ffordd i'r gwaith ar y 4ed. Ond am ryw wythnos rwan neu efallai deg diwrnod mae o wedi bod yn oer iawn - hefo tymerau is nac ydym wedi gweld erstalwm. A heddiw, dyddiau ar ol i lawer o lefydd eraill cael eira mawr, cawsom ni dipyn bach o eira dros nos. Ond er bod y tymherau wedi codi dipyn (dim llawer!) mae'r gwynt wedi bod yn oer iawn - gwynt diog, fel fysai Nain yn deud.

Friday 26 November 2010

Prynu llyfrau a cefnogu llyfrau Cymraeg?

Fel dwi wedi deud o’r blaen, dwi’n darllen yn gyflym, ac, wedi gwneud rhestr i weld be dwi wedi darllen eleni – mae ‘na 24 llyfr ar y rhestr – dyna un bob bythefnos - yn gyfartaledd. Fel arfer, y dyddiau yma, dwi’n archebu llyfrau o’r llyfrgell gwaith – trwy’r cyfundrefn “Document Delivery”. Dyma fy resymau am gnweud hyn:

1. Does gen i ddim lle i cadw’ nhw i gyd

2. Dwi ond eisiau cadw llyfrau dwi am ddod yn ol at, i ailddarllen, ac am fy mod yn darllen yn Gymraeg i ehangu fy ngeirfa, dwi’n darllen nofelau na fyddai i yn darllen eto.

3. Does dim bosib edrych ar llyfrau cyn prynu nhw yma yn Lloegr, a weithiau dwi’n cael llyfr dwi ddim yn hoff o o gwbl

4. Mi fysai yn ddrud i brynu nhw i gyd.

Ond dwi wedi bod yn pendroni am hyn yn ddiweddar am fy nghyfraniad (neu ddim!) i gefnogi llyfrau Cymraeg. Dwi ddim yn cofio sut ddes i ar draws y wefan, ond darganfais blog Ifan Morgan Jones - a sgwennodd Igam Ogam. Dwi wedi darllen y llyfr a do, brynais i o – achos r’oeddwn yng Nghymru ac yn medru edrych ar y llyfr – ac er meddyliais ei fod o’n rhyfedd mwynhais y cymysgedd o realiti a hud a lledrith yn y diwedd. Tydi Ifan ddim yn cyfrannu at ei flog yn aml iawn, ond yn ei gyfraniad ym mis Medi mae o wedi nodi dyfyniadau o adolygiad ei lyfr diweddar Yr Argraff Gyntaf – gan cynnwys:

“Dydw i ddim yn un am ddarllen nofelau ditectif ond rydw i wedi newid fy meddwl ar ôl darllen y llyfr yma.” a hefyd

“Rydach chi eisiau parhau i ddarllen. Mae’n nofel sy’n dechrau yn gyffrous ac yn gorffen yn gyffrous. Mae’n nofel wych.”

Dwi’n hoff iawn o lyfrau ditectif – a wedi mwynhau ei lyfr gyntaf, meddyliais baswn i’n archebu’r llyfr trwy ein llyfrgell yn y Brifysgol Agored. Ond wrth ddarllen mwy mi welais ei fod o yn annog ni i brynu’r llyfr:

rydw i wrth fy modd yn ysgrifennu ac eisiau'r cyfle i fwrw ymlaen gyda mwy o nofelau

Dwi wedi clywed Bethan Gwanas yn deud yr un peth ( a dwi am brynu Yn Ol i Gbara) – a mae o’n wir bod y byd llyfrau Gymraeg yn fach ac ynhaeddu cefnogiaeth. Felly mae’r Argraff Gyntaf yn mynd ar fy restr o lyfrau i brynu hefyd

Thursday 25 November 2010

"Forsooth": am gyfeithiad gwael

R’on i’n darllen llyfr ryw fis yn ol a nes i ddod ar draws y gair “bondigrybwyll”. R’on i ddim yn cofio’r ystyr (neu wedi anghofio). Felly i’r geiriadur amdani. Ond, yn y dyddiadur mawr, mae’n cael ei gyfieithu fel “forsooth” – a hefyd yn fy ngeiriadur bach Collins Gem – a r’un fath ar y bbc.

Wn i ddim amdanach chi – ond mi fyddwn i byth yn defnyddio “forsooth” yn Saesneg – dwi ddim hyd yn oed yn gwybod ei ystyr o! (Oes diffyg yn fy addysg i, tybed?) Ond falle fydd yn air geith Bethan neu Tudur ddefnyddio ar ei raglan Buw yn ol y llyfr, Mae hwnnw, fel y gair, i'w wneud a'r oes Victorianaidd.
PS - Ers hynny, dwi wedi gweld cyfeithiad arall: "unmentionable" a wedi gweld y gair yn cael ei ddefnyddio hefo'r ystyr hwn.

Tuesday 23 November 2010

Teulu Lord Bach


Ro'n i wedi penderfynnu byddwn yn iawn heb llyfr Cymraeg ar y gweill pan ddaeth ddau lyfr ro'n i wedi archebu - un yn fawr iawn: Teulu Lord Bach. Cafodd hwn adolygiad dda iawn ond r'on iddim yn gwybod ei fod o mor drwchus! Dwi wedi dechrau darllen o, a hyd at hyn - da iawn..

Labels:

Sunday 21 November 2010

Y teulu Cymraeg a hel achau


Dwi erioed wedi meddwl o hel achau i. Am un peth, Jones dwi, a doedd gen i ddim llawer o wybodaeth am fy nain a fy nhaid Cymraeg. Roeddwn yn gwybod bod fy nhaid wedi gweithio yn y chwarel, a bod nhw’n byw yn Rhosgadfan ond dim llawer mwy ac yn anffodus does neb ar ol o fy nheulu Cymraeg o’r cenehdlaeth o’r blaen. Ond ar ddechrau y blwyddyn yma, darganfais y darn hwn o bapur wedi sgrifennu gan fy nain (dwi’n meddwl) yn rhoi dyddiau a manylion geni ei brodyr a chwioryr a hefyd ei mam a thad, felly mae’n bosib, rwan, dwi’n meddwl, darganfod mwy.

Dwi’n gwbod bod pobol yn treulio oriau yn gwneud hyn, a does gen i dim amser i ddechrau hobi arall, felly am rwan, dwi’n meddwl fydd rhaid i’r weithgareddau aros nes i fi ymddeol (neu cael mwy amser).

Sunday 14 November 2010

S4c a cerddi

Dwi wedi bod i ffwrdd o’r gwaith hefo ryw haint gwddo (ydi hynny’n iawn, tybed? “throat infection”?). Beth bynnag, dwi wedi dal i fynny hefo lot o wylio S4c ar Clic, yn cynnwys Pen Talar. Ond hefyd dwi wedi bod yn gwylio rhai o’r rhaglenni o’r cyfres Gwlad Beirdd. Dwi ddim yn cael hi yn hawdd i ddeallt y cerddi ond mae nhw’n ddiddorol a dwi’n ysu deallt mwy felly mae gwylio nhw am clic yn rhoi y cyfle i wylio nhw yn gyntaf heb isteitlau a wedyn i rhoi yr isteitlau ymlaen.

A dwi wedi cael fy ysbrydoli i archebu’r gyfres (gwreiddiol) o “Hoff Gerddi Cymru”. Mae’n braf gwybod bod cyfres arall ar gael os dwi wrth fy modd hefo’r cyfres cyntaf (ac yn dallt digon!)

Sunday 7 November 2010

Garddio a darllen


Dwi wedi cael penwythnos braf yn gwneud dipyn yn yr ardd – wel, rhai oriau yn yr awr I fod yn onest; mynd allan i weld ffilm diweddar Mike Leigh; dipyn o ddarllen fy llyfr Cymraeg a dipyn o wylio S4C (ar Clic).

Tachwef (neu Hydref) ydi’r mis gorau i blannu hadau ffa os dych chi am blannu nhw yn yr Hydref – a mae o’n syniad da, achos mae’r ffa yn tyfu’n gryf a does dim gymaint o broblemau gyda’r pryfaid du. Ac ar ol y gaeaf galed diwethaf, doedd na ddim llawer o broblemau gyda’r pryfed eleni. Mae’r llun yn dangos y ffa (yn y gwely mwyaf agos) yn mis Mai, eleni. Felly heddiw roeddwn yn plannu’r hadau – a ddylen nhw fod yn barod mis Mehefin nesaf. Cawsom cawl pannas ddoes, wedi gwneud o’r pannas yn yr ardd, a r’oedd o’n hyfryd. Ac o’r diwedd dwi wedi gorffen chwynny yn yr ardd ffrynt, a wedi casgly pedwar sach o ddail.

Dwi eisiau cofnodi be dwi wedi bod yn darllen cyn i fi anghofio. Soniais am ddarllen yn ddau lyfr gan Grace Roberts ( a dwi’n meddwl cael yr un arall hefyd). Ond cyn hynny, cefais ddau lyfr gan Geraint V Jones. Mae o wedi ennill gwobr Goffa Daniel Owen tair gwaith: hefo Yn y Gwaed, Semtecs, a Cur Y Nos. Mae rhaid I fi gyfadde, nes i erioed gorffen darllen Yn Y Gwaed, a dwi i ddim yn dallt sut ennillodd y wobr. Ond roeddwn I wrth fy modd gyda Semtecs – nofel fywiog a diddorol. Nes I ddim mwynhau Cur Y Nos gymaint a Semtecs– er mae o’n lyfr clyfar – a dysgais lawer o enwau coed! Ac yn sicr r’oeddwn i eisiau gorffen o. Mae’r tri lyfr mor wahannol a dwi mor falch fy mod wedi trio darllen y llyfrau eraill ar ol fy methiant hefo Yn Y Gwaed.

Ar hyn o bryd dwi’n darllen Traed Oer gan Mari Emlyn ac mae o’n dda iawn. Felly dwi am archebu ei llyfr arall: Tipyn o’n hanes: stori’r wladfa.

Thursday 4 November 2010

Y taith i’r gwaith a’r perllan cymunedol




Dwi’n ffodus iawn bod fy siwrna i’r gwaith mor hardd. Dydd Llun roedd y rhagolwg tywydd yn addo diwrnod cymylog, llwyd – ond ‘roedd yr haul yn gwenu, a roedd y coed yn drawiadol; yn dangos gymaint o liwiau wahannol. Cymerais mantais o’r tywydd ac es i gasglu afalau. Dwi wedi son o’r blaen am fy mherllan anghyfreithlon. Eleni, mae un o fy nghoed afalau ddim wedi ffrwythi o gwbl a felly roedd angen cael mwy o afalau o rywle. Mae gennyn ni berllan cymunedol ddim yn bell o ble dwi’n gweithio. Cafodd y perllen ei blannu yn nyddiau gynnar Milton Keynes. Dwi ddim yn siwr sut mae’r afalau yn cael ei casglu ond fy nyll i oedd I gasglu’r ffrwyth cwympo.

Mae'r llun cynta yn dangos rhan o'r taith i'r gwaith.