Ailddysgu

Wednesday 30 June 2010

Llyfrau


Roeddwn i'n dechrau meddwl fu rhaid i mi trio darllen Un Nos Ola Leuad unwaith eto (dwi wedi dechrau o blaenau a methu a dwi am trio
eto .....) ond ddoe cyrhaeddodd Yr Ergyd Olaf gan Llwyd Owen. Ar ol gorffen Mr Blaidd r'on i'n awyddus i ddarllen llyfr arall gan Llwyd Owen
felly dwi wedi dechrau darllen o. Hyd at hyn - da iawn. Ond dwi ddim wedi darllen llawer eto.

Saturday 26 June 2010

Mehefin Poeth a sych


Dwi ddim wedi cael digon o amser y mis yma i wneud be sy angen yn yr ardd. Dyn ni'n byw mewn ardal sych a pam mae o'n boeth hefyd, mae'r pridd yn sychu yn gyflym iawn, Dwi'n trio gwneud y pethau sydd yn helpu, fel defnyddio compost a tail i wneud y pridd dal dwr yn well, ond ar y funud mae angen dwr bron trwy'r amser. Ond mae o'n werth edrych ar cyngor garddwyr eraill, hefyd. Y blog garddio Cymraeg dwi'n hoffi mwyaf (a'r cyfres yn mynd hefo'r blog, wirth sgwrs), ydi blog garddio Bethan Gwanas sy'n rhoi hanes ei gardd hi a hefyd garddi eraill o gwmpas. Dwi'n ffodus iawn bod gennyn ni ty gwydr mawr (hen) a dwi'n treulio lawer o amser yn y ty gwydr. Hefyd pan mae o'n wlyb (dim o gwbl ar y funud) mae o'n bosib cario ymlaen hefo garddio!

Wednesday 23 June 2010

Beicio i'r gwaith


Nes I feicio i’r gwaith heddiw – nid ydi hyn yn beth anghyffredin, ond roedd yn her, achos dwi’n mynd i fynny i Nottingham bellach ymlaen heddiw a mae gennyn ni gyfarfod gwaith fory – wel, Dydd Agored i ddweud y gwir, ynglyn a prosiect gwaith – “Personal Inquiry”. Y her oedd dod a’r dillad angenrheidiol am fory ar y beic. Oherwydd dwi’n mynd i’r cyfarfod yfory (yn teithio yn hwyrach heddiw ac yn gorfod gadael y beic yma dros nos), 'swn i ddim wedi traferthu hefo’r beic heddiw, ond heddiw yw “Bike to Work” day. Dwi ddim yn siwr os ydi hwn yn digwydd yng Nghymru hefyd? Beth bynnag, gwnaeth lawer o bobl feicio a dyma lun o rai ohonnyn nhw yn "clocio i mewn" fel petai.

Labels:

Friday 18 June 2010

Perllan anghyfreithlon


Dyma llun o ran o fy mherllan anghyfreithlon. Gellyg ar coeden ifanc. Mae o’n anghyfreithlon oherwydd ydi o ddim ar fy nhir i, ond ar tir y cyngor – tu allan i waliau fy ngardd – sy’n perthen i’r cyngor, dwi’n meddwl. Ond dwi ddim yn gweld pa ddrwg mae tyfu coed yn gwneud, yn wir, mae coed yn cyfranu i gwrtogi carbon deiocsid.

Mae yna saith coeden rwan – un cnau, tair coeden afal, un coeden gellygen, (yn y llun), a dwy goeden eirin. Dwi’n ei weld fel fath o “guerrilla gardening” neu “political gardening” fel mae nhw’n dweud yn Saesneg.

Thursday 10 June 2010

Tylluan fach


Dwi wedi body yn gwylio tylluanod fach (? little owls) ar fy nhaith i'r gwaith. Dwi'n meddwo eu bod yn nythu yng nghoeden derw ger y llwybr. Roedd un yno ddoe a heddiw welais un yn hedfan i ffwrdd dros y lon bach.

Mae nhw'n ddoniol iawn, a medru screchan a gwneud swn anhygoel. Hefyd pan mae nhw'n cael eu aflonyddu (?? disturbed) mae nhw'n symud eu pennau i fynny ac i lawr yn gyflym.

Wednesday 9 June 2010

Darllen Mr Blaidd

Mae nifer o bobl wedi cymeradwyo Mr Blaidd gan Llwyd Owen. Dwi newydd ddechrau darllen y llyfr ac yn mwynhau o. Am ryw reswm mae'r llyfrau dwi wedi darllen yn ddiweddar wedi teuddu bod yn drist neu ddigalonig. Ond dwi'n edrych ymlaen i ddarllen hwn bob nos
ac i ddarllen fwy o lyfrau Llwyd Owen.

Tuesday 8 June 2010

Cwcw

Dwi wedi clywed y gog dwywaith eleni. Unwaith wythnos diwedd, pan glywais o yn yr ardd bore dydd Mawrth - wel doedd o ddim yn canu yn yr ardd ond tu allan rhywle - sy'n rhyfedd, achos r'wyn byw yn ydre - er ei fod yn dre fach a digon o lefydd gwyrdd o gwmpas. Wedyn es am dro gyda ffrindiau dydd Sadwrn a dyna swn y gog yn canu ger pentre bach Great Brickhill. Mae'r nifer yn gostwng yn gyflym. Cyhoeddwyd llyfr, llynedd "Say goodbye to the cuckoo" - y cliw yn y teitl fel mae nwh'n dweud yn Saesneg - onnd mae o'nn drist iawn dwi'n meddwl. A hyd at hyn, dyn ni ddim yn gwybod pam. Ond yn sicr dwi'n falch ei glywed.

Labels: