Ailddysgu

Monday 31 May 2010

Cymraeg ar y tren

Es i Lundain i gyfarfod a ffrind dydd Gwener a roeddwn eisiau gwneud dipyn o
Gymraeg ar y tren. Es i chwilio am lyfr Cymraeg i ddarllen - rhywbeth
ysgafn - a darganfod llyfr yn y cyfres "pigion 2000" o ddarnau Islwyn
Ffowc Elis "lleoedd fel Lleifior". Mae'r cyfres yma mor dda os dych
chi eisiau lyfr bach, ysgafn I ddarllen ar tren neu bws. A mae nhw'n
rhad: £1.99! Delfrydol!

Monday 10 May 2010

Bywyd natur

Weithiau mae gweld rhywbeth cyffredin mewn lle anarferol mor dda, dwi’n meddwl a gweld rhywbeth prin. Dyna sut teimlais ddoe wrth weld cornchwiglen yn hedfan uwchben. Ydi’r adar hyn ddim yn brin iawn (er fod ei niferoedd yn gostwng) ond, yma yn Newport Pagnell, dyn ni ddim yn gweld nhw yn aml yn y caeau. (Mae nifer wrth y llynoedd ffug sy ganddon ni, yn enwedig yn y gaear).

Dipyn yn hwyrach, roeddwn i ddigon lwcus i weld a clywed las y ddorlan (dwi’n meddwl dyna be ydi’r gair Cymraeg - kingfisher mewn Saesneg) Fel dwedais ar fy mlog Saesneg am y bywyd gwyllt o gwmpas Newport Pagnell, dwi’n trio dysgu galwad las y ddorlan hefyd.

Saturday 8 May 2010

Ar ol yr etholiad... a darllen

Wel, yn y fan hyn, yn de-dwyrain Lloegr, mae'r map yn las i gyd, ar wahan i Luton a Cambridge. Cymru ac yr Alban sydd wedi rhwystro'r Toriaid cael mwyafrif mawr - a dwi'n falch o hynny.

Dwi newydd gorffen darllen y ddau Dyfi Jyncshyn lyfr. Dwi ddim yn siwr faint dwi wedi mwynhau nhw. Mae syniad y ddau lyfr yn un dda iawn ond erbyn i fi cyrraedd haner ffordd trwy'r ail lyfr - Y dynes yn yr haul, roedd o'n teimlo fel gwaith galed.

Rwan dwi wedi dechrau ar Atyniad. R'oedd Y Llyfrgell yn ardderchog. Hyd at hyn, dwi ddim yn cael gymaint o hwyl hefo Atyniad, ond dwi ddim wedi darllen llawer o'r llyfr eto, felly gawn i weld.

Wednesday 5 May 2010

Blogio

Byr ag aml. Dyna be ddwedodd Vaughan Roderick ar Pethau neithiwr, pan oedd yn ymateb i gwestiwn am gyngor i flogwyr. Wel, mae’n debyg fy mod i’n methu’r ddau. Ond mae wahannol ddulliau o flogio gyda wahannol bwrpasau. Mi faswn i’n meddwl efallai ei fod o’n bwysig i rai flogwyr (fel Vaughan Roderick?) gwneud siwr eu bod yn postio yn aml er mwyn cael sylw y cyhoedd? Mae rhai eraill, fel Bethan Gwanas, dim yn postio’n aml bob amser– a hefyd weithiau yn creu blogiau hir – ond wastad yn ddiddorol (yn fy marn i).

Mae’r byd blogio Cymraeg yn weddol fach, o hyd. Awgrymodd Vaughan Roderick, ar y rhaglen, mai efallai bod lawer o bobl ddim yn gyffyrddus yn sgrifennu mewn Cymraeg. A roedd o’n son am y rheini sydd yn siarad Cymraeg fel iaith cyntaf.

Ond efallai bod rhywbeth yn y syniad o fyr ag aml. Dwi am trio bostio yn fwy aml – hyd yn oed os ydwi ond eisaiu son am y brwydr dwi’n cael, yn aml, yn trio cadw’r Cymraeg I fynny – a hyd yn oed gwella fy Ngymraeg, tra fy mod yn byw yng nghanol Lloegr…..