Ailddysgu

Saturday 21 November 2009

Podlediau a gwreiddiadur

Er nad wyf wedi cyfrannu at y blog yma ers meitin, dwi ddim wedi bod yn ddiog. Dwi'n gwrando ar bodlediad Cymraeg Radio Cymru wrth beicio i'r gwaith, ond, does dim digon ar gael ar y wefan http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/podlediadau. Mae na gasgliad o ddarnau o raglenni amrywiol ar gyfan ddysgwyr, unwaith pob wythnos (ond, dim pob wythnos) fel ry fath o "pick of the week" Cymraeg. Ond, dyw o ddim ond yn para am ryw ugain funud, a mae fy nhaith i yn cymryd deugain funud pob ffordd. Felly mae na ddipyn o fwlch. Dwi hefyd yn gwrando ar Dau O'r Bau , rhaglen gwleidyddol. Dipyn hirach, ryw 40 munud. Ond be wedyn? Yn ddiweddar, darganfais podlediau S4C am hanes gynnar Cymry, felly dwi'n beicio weithiau i gyfeilliant twrw ddramatig ryfelion Lloegr a Cymru - a dwi'n meddwl efallai fy mod wedi dysgu dipyn o hanes erbyn hyn, hefyd.

Yn ddiweddar, hefyd, datganfais gwreiddiadur Cymraeg (gan Gareth Jones) a phrynais y llyfr, o Palas Print. Dyma siop ardderchog, yng Nghaernarfon. Siop reit fach, ia, ond mae'n gwerthu coffi hefyd - a dydd Sadwrn diwethaf pan es i yna ar ddiwrnod diflas gwlyb, cefais hefyd, tamaid o fara brith "gratis". Mae na wefan hefyd, http://www.palasprint.com/ lle archebais y llyfr, a daeth trwy'r post yn brydlon iawn. Be ydi gwreiddiadur felly? Dipyn fel geiriadur ("the clue's in the title) fel dwed yn Saesneg. Teitl Saesneg y llyfr yydi "Welsh Roots and Branches" a mae o'n gasgliad o wreiddeiriau, a'r geiriau gwahanol sydd wedi cael eu ddatblygu ohonnyn nhw. Felly, dan "byw" fel engraifft, ceir "cyd-fyw a; bywiog; bywiolaeth; bywiogi" a.y.y.b. Fordd dda iawn, rwy'n credu, i ehangu geirfa, a cofio geiriau newydd, oherwydd eu fod i gyd mewn cyd-destun a mewn teuluoedd. Gawn i weld!

Labels: , ,