Ailddysgu

Wednesday, 30 November 2016

Barrug

O’n i am son am y dylluan wen, ond gyda’r tywydd braf, braf [er mor oer], roedd rhaid tynnu dipyn o luniau.  Ddoe penderfynais fynd i'r gwaith ar y beic.  Er ei fod hi’n oer ofnadwy, roedd hi’n ddiwrnod braf iawn, a phobman yn edrych mor wych gyda’r haul yn sgleinio a'r golau mor fendigedig.

Ro’n yn ofalus, a doedd o ddim rhy rhewllud.  Roedd y llyn yn edrych yn hyfryd, a hefyd y coed i gyd ar y fordd i'r gwaith.





A llwyddiais i feicio yn ol, hefyd, heb ddamwain.  Ond heddiw roeddwn yn gweithio gartref, felly dechreuodd y dydd gyda cerdded ar y comin, yn hytrach nag ar y beic.

Dyma rhai o'r olygfeydd ar y comin bore 'ma.  Mae'r rhain o'r cae gwylod, with yr anon.  Bendigedig.



Saturday, 12 November 2016

Ar y comin eto


Heddiw mae’n bwrw - ac yn ddiwrnod ddiflas ar y cyfer, felly mae’n werth cymryd mantais pan mae’r tywydd yn braf - a diwrnod felly cawsom ddoe. Awr ar y comin bore ddoe, a’r haul yn dod allan, a gwylio’r cudyll coch.   Mae niferau’r aderyn yma wedi gostwng trwy Prydain. ‘Roedd yn aderyn digon gyffredin pan oeddwn i’n blentyn, yn bendant.  Mae’r RSPB wedi bod yn gwneud ymchwiliad a hyd at hyn, mae’r canlyniadau yn dangos mai newidiadau yn y ffordd o ffermio, a defnyddio cemegau i ladd llygod, yn enwedig defnyddio gwenwyn i ladd llygod mawr sy’n gyfrifol.

Mae par ar y comin, ond fel arfer ond y iâr byddaf yn gweld [dwi’n ei cymryd hi mai par ydynt oherwydd weithiau mae dau yn hedfan].

Mae’r brân yn ddi-dostur weithiau, ac ar nos Fercher, pan oeddwn yn mynd allan gyda’r ci, cyn iddi hi nosi go iawn, r’oedd brân bron ar gynffon y cudyll coch, nes iddi hi gorfod cludo mewn coeden.


Dyma hi ddoe   




Gobeithio bydd hi’n llwyddo i godi teulu.  Ddyle fod digon o fwyd iddi hi ar y comin, gyda’r llygod bengron.

Sunday, 6 November 2016

Otmoor

[Dwi wedi trio gyda'r post yma tair gwaith nawr, a bob tro mae o\n edrych yn od iawn, dim ots pa "front".  Felly dyma'r tro diweähaf a ffwrdd a hi]

Mae’r tymor yn newid, a’r tymheredd wedi gostwng - ac am fod yn oerach byth.  Prynhawn yma, glaw trwm, a gwyntoedd cryf.  Ddoe, yn y prynhawn, mi es i Otmoor, gwarchodfa natur RSPB gyda fy ffrind Jan.  Dwi ond wedi bod unwaith o’r blaen, ond mae’r llecyn yma yn arbennig iawn.  Er ei fod yn yml Rhydychen, rhos isel neu cors ydy hi: gwlypdir gyda’r fath o adar fasech chi’n disgwyl mewn cynefin fel hyn.  Unwaith roedd y wlypdir yn enfawr, ond fel sydd yn digwydd, cael ei droi i dir ar gyfer ffermio oedd hanes y ran fwyaf.  Ar wahan i Otmoor.  A mae’r RSPB wedi bod yn datblygu’r warchodfa ar gyfer rhywiogaethau arbennig, fel aderyn y bŵn, bod y gwerni ac yn y gaeaf, bod tinwen. Ddoe, ’roedd bod y gwerni i’w gweld, a hefyd bod tinwen - mae nhw yn dod i lawr o’r tir isel yn y gaeaf.  Falle mae un o’r Alban oedd hon.  Doedden nhw ddim yn agos, yn bendant dim digon agos i gael llun.



Felly dyma llun o ddau a welais haf llynedd yn Otmoor (dydy rhain ddim yn dda iawn chwaith.....].

Ond y sioe ddoe oedd y ddrudwy.  Erbyn pedwar o’r gloch roeddent yn dechrau hedfan i’r gors, yn ei filoedd.  Ond doeddent ddim i gyd yn dod ar unwaith, ond fel cymylau, un ar ol y llall, a weithiau gyda hoe bach, neu fawr, rhwng y cymylau.  Dyma be mae’r blog RSPB yn dweud am Otmoor

 a hefyd mae blog Otmoorhttp://otmoorbirding.blogspot.co.uk/ ei hyn yn ardderchog.

Wednesday, 26 October 2016

Tŷ allan ac yn y tŷ

Mae  lliwiau’r coed tŷ allan i “Walton Hall”, yr hen dŷ yng nghanol ein campws gwaith yn drawiadol iawn, yr amser yma o’r flwyddyn.  Dwi ddim yn siwr be ydy nhw.   


A mae’r siwrna i’r gwaith ar y beic wedi bod yn bleserus iawn. 





Wythnos yn ôl, r’on i’n hapus iawn i weld y greadur yma.  Does dim llawer o ddraenogod o gwmpas fama, a mae’r rhan fwyaf dwi’n gweld wedi marw ar y lôn, ond ’roedd hwn, neu hon,  yn fyw a iach - ond falle dipyn yn fach i oroesi’r gaeaf.


Ond heddiw, gweithio gartre bore ’ma, a gwarchod y wyrion p’nawn yma, a dyma lluniqu o fy ŵyr bach, Thomas, un gyda Smot - y fersiwn Gymraeg o ’Spot’ o’r llyfrau i blant ifanc.  Wel, dyna be dan ni’n ei alw fo beth bynnag - ac yn y llyfrau mae Spot wedi troi i fewn i Smot. 

 

Monday, 10 October 2016

Digwyddiadau ar y comin, yn y tŷ gwydr ac yn y gegin

Mae’r hydref go iawn wedi dod i’r comin, gyda tarth yn y bore, a golau hyfryd, yn gwneud cerdded i ymarfer y ci - a fi, yn bleser. 



 Yn ddiweddar, dwi wedi gweld dau aderyn dwi erioed wedi gweld o’r blaen ar y comin.

Y gyntaf, bore Sadwrn oedd clochdar y cerrig.  Hwn ydy un o fy hoff adar.  Ac er bod llyfr natur Iolo yn dweud ei fod yn hoff o dir comin, dwi erioed wedi gweld un yn yr ardal hon o’r blaen.  Dyma llun o glochdar y cerrig Cymraeg - yn Sir Benfro:



A gwryw oedd yr un ar y comin hefyd; aderyn hardd iawn, ond ches i ddim gyfle i edrych arno fo yn fanwl; roedd o wedi hedfan i ffwrdd mewn chwinciad!  

Bore Sul, bore braf a heulog, edrychais i weld be oedd yn y ddraenen wen, sydd yn llawn o aeron coch, a bob fath o aderyn yn gwledda ar yr aeron.  Un o’r rheini oedd pinc y mynydd - brambling. Ymwelydd gaeaf ydy hwn, a dwi’n gwybod ei fod yn cael ei weld yn yr ardal - yn enwedig yn y warchodfa natur, ond dwi ddim wedi gweld un o’r blaen.  

Mae’r comin yn gartref i sawl rywogaeth, a mae’r rhestr wedi tyfu rwan.  Ac yn y cae gwaelod - y ddôl gwaelod, wrth yr afon, mae pethau yn newid hefyd.  Eleni, gyda’r gwair yn hir, ’roedd y ddôl yn llawn o bryfed a ieir bach yr ha, a’r adar yn dod i wledda ar y pryfed, yn enwedig y wennol ddu, tra oedd adar fel bras y cyrs yn nythu.  A rwan mae gynlluniau ar y gweill i greu ddôl go iawn, ’hen ffashiwn’. 



Mae dôlydd hen wedi bod yn diflannu o’r wlad, ac oherwydd hynny dan ni wedi colli’r blodau sydd yn tyfu yna, a’r bywyd gwyllt sydd yn dilyn y blodau.

Heddiw roedd y gwaith yn dechrau, felly gawn ni weld sut bydd y ddôl yn datblygu dros y blynnoedd.

Yn ôl yn yr ardd, mae’r aubergines yn ffynnu yn y tŷ gwydr.  


Rhai bach, eleni, yn y gobaith ei fod am aeddfedu dipyn yn gynharach na’r arfer.  Nos Sadwrn, felly, cyri aubergine.  Dwi’n hoff iawn o ryseit Nigel Slater, sydd yn eitha syml ac yn hyfryd o flasus. 

 

Ein ciwymbers o’r tŷ gwydr yn y raita, chutney a reis, a papadom, a dyna ni.

Sunday, 2 October 2016

Pethau diweddar


Fel arfer, mae pethau wedi bod yn brysur, a rhysut dwi ddim wedi llwyddo i bostio i’r blog.  Felly be sydd wedi bod yn digwydd?  Penwythnos diwethaf, aethom i arddangosfa a oedd wedi cael ei osod yn yr hen eglwys yn Lathbury - pentref rwy filltir i ffwrdd.  Mae’r hen eglwys yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, a mae lluniau a cherfiadau ar y muriau
.  



Arddangosfa gan ddau artist lleol sydd yn byw yn y dref yn fama: Kate Wyatt - sydd yn peintio bywyd gwyllt lleol , ac yn yn enwedig sgwarnogod, a hefyd rhai o waith Tony Barker, sydd hefyd yn peintio adar a bywyd gwyllt.  Dan ni wedi prynu un o’i phrintiau hi, i fynd ar wal y lloft ffrynt.   Mae’r ddau yn treulio llawer o amser ym mhob tywydd yn fraslunio be maent yn gwylio, a mae o’n syndod gymaint o adar ac anifeiliaid sydd i’w gweld yn yr ardal.

Ddoe, ymweliad i arddangosfa gwbl wahanol. “Records and Rebels 1960- 70- ”  yn yr amgueddfa Victoria & Albert, yn Llundain.  Rhan o ddathlu penbwlydd fy ngŵr a fy ffrind.  Arddangosfa gwych; hel atgofio ond hefyd ' roedd yn ymweliad emosiynol.  Lle aeth yr holl cythro a’r angerdd? Yn ôl yr arddangosfa, ar ddiwedd y pumdegau/dechrau’r chwechdegau - dwi ddim yn cofio yn union, roedd hanner poblogaeth America yn dauddeg bump neu iau!  A dyma ni heddiw, ac efallai bod yr Americanwyr am gael Trump fel llywydd!

Ac yn ôl i iddiwrnod heulog, hyfryd, yn fama, heddiw.  Felly amser i fynd i ddyfrio’r planhigyn yn y tŷ gwydr.  O’r diwedd mae’r pupurau yn dechrau [ond yn dechrau, cofio], aeddfedu.  


Does dim gymaint a hynny, ar ol i’r malwod wleddu ar y blanhigion yn gynharach yn y gwanwyn, ond edrych ymlaen at flasu be sydd ganddo ni, beth bynnag.

Monday, 12 September 2016

Dro bach

Gyda’r tywydd braf yn parhau, a dim rhy boeth dydd Sul, aethom am dro bach lleol.  Mae’r taith bach yma yn mynd trwy’r comin ac i lawr i llyn, wedyn dros caeau ac yn dringo i gyrraedd fferm, cyn troi yn ol i lawr tuag at yr afon eto, ac i bentre Llathbury, hen bentre ryw filltir o’n dre ni.  Buom un byw yn Lathbury am ychydig o flynyddoedd.

Dyma’r hen lwybr braf sydd yn mynd o’r comin i lawr i’r llyn [lle eitha da i hel mwyar duon].



Yn ffodus, roedd y gwartheg reit dawel - dwi wastad yn wyliadwrus wrth mynd trwy cae gwartheg gyda ci, yn enwedig os oes lloi bach.




Wedyn cyrraedd y fferm, i’w weld yn fferm mawr ddiwydianol mewn ffordd.  Ac yn llawn o wenoliaid a weonoliaid y tŷ.  Heb mynd eto, a’r tywydd yn ddelfrydol ar gyfer bwydo cyn hedfan i ffwrdd.


Ar ôl mynd trwy’r fferm, mae’r llwybr yn troi ac yn mynd i lawr yr allt tuag at yr afon, ond annodd gweld dim gyda’r cae enfawr yn llawn o yd, ac yn anelu at bentre bach Lathbury. Hen bentre sydd wedi ei henwi yn y llyfr ’Doomesday’ gyda hen eglwys yn dyddio yn ôl i’r deuddegfed ganrif.




Mae llwybr trwy’r cae gyferbyn a’r eglwys wedyn yn dilyn yn ôl i Newport Pagnell,

 

lle dan ni’n byw.  Am ychydig o flynyddoedd rŵan mae defaid ’Herdwick’ yn y caeau yma - sydd wastad yn fy atgofio fi o Ardal y Llynnoedd, o ble mae nhw’n dod.  Defaid sydd yn gwneud yn dda mewn llefydd mynyddig - a felly mewn ardal fel yma, gyda gwair moethus, yn edrych yn iach iawn.  


Am saharan!  Braf lawn cerdded yn yr haul - ond rya bedwar a hanner filltir.